Neidio i'r cynnwys

Abadan

Oddi ar Wicipedia
Abadan
Mathdinas Iran, dinas fawr, dinas â phorthladd Edit this on Wikidata
Poblogaeth231,476 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladIran Edit this on Wikidata
Uwch y môr6 metr Edit this on Wikidata
GerllawShatt al-Arab Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau30.3392°N 48.3042°E Edit this on Wikidata
Map

Dinas a phorthladd yn ne-orllewin Iran yw Abadan (Perseg: آبادان) sy'n brifddinas y Dosbarth Canolog a Swydd Abadan yn nhalaith Khuzestan.[1] Lleolir hi ar Ynys Abadan ar lan ddwyreiniol Shatt al-Arab, gyda'r Bahmanshir, un o aberoedd Afon Karun, i'r dwyrain. Saif 53 km o Gwlff Persia, ger y ffin rhwng Iran ac Irac, a 140 km o Ahvaz, prifddinas talaith Khuzestan. Yn ôl y cyfrifiad cenedlaethol yn 2016, mae ganddi boblogaeth o 231,476.[2]

Honnir iddi gael ei sefydlu gan ŵr duwiol, ʿAbbād, yn yr 8g. Daeth yn dref arfordirol lewyrchus, ac yn enwog drwy'r Galiffiaeth Abasidaidd am ei halen a'i matiau wedi'u gwehyddu. Fodd bynnag, ehangodd delta Shatt al-Arab o ganlyniad i ddyddodiad silt yn y cyfnod hwn, gan achosi arfordir y Gwlff i encilio'n raddol, ac erbyn i Abadan gael ei hymweld gan y daearyddwr Arabaidd Ibn Battuta yn y 14g fe'i disgrifiwyd fel dim ond pentref mawr mewn gwastadedd hallt.[3]

Yng nghanol yr 17g, wrth i'r Saffafidiaid a'r Otomanaid gystadlu dros reolaeth Gorllewin Asia, daeth Abadan yn diriogaeth ddadleuol rhwng y ddwy ymerodraeth. Wedi anghytuno hir ynghylch pwy oedd yn berchen arni, enillodd Persia feddiant ohoni yn sgil Cytundeb Erzerum (1847).[4] Arhosodd ei statws fel pentref yn ddigyfnewid tan ddechrau'r 20g, pan ddarganfuwyd meysydd olew cyfoethog yn Khuzestan. Ym 1909 sefydlodd yr Anglo-Persian Oil Company burfa ei derfynell piblinell yn Abadan. Dechreuodd y burfa weithredu ym 1913, ac erbyn 1956 roedd Abadan wedi tyfu'n ddinas â mwy na 220,000 o drigolion, gyda'i heconomi bron yn gyfan gwbl yn seiliedig ar buro olew a'i gludo. Cafodd y burfa ei chyflenwi gan biblinellau'n rhedeg o'r meysydd olew i'r gogledd, ac yn ddiweddarach adeiladwyd piblinellau o Abadan i Tehran ac i Shiraz. Erbyn diwedd y 1970au purfa olew Abadan, o bosibl, oedd y fwyaf yn y byd.[3]

Ym Medi 1980, ar ddechrau Rhyfel Iran ac Irac, bu bron i'r ddinas gael ei goresgyn yn ystod ymosodiad annisgwyl ar Khuzestan. Methodd yr Iraciaid gipio Abadan, ond dinistriodd eu magnelau a bomiodd o'r awyr y purfeydd gan leihau'r rhan fwyaf o'r ddinas yn adfail. Ar ôl i'r rhyfel ddod i ben ym 1988, ailgychwynnodd Iran buro olew a chynhyrchu petrogemegolion yn Abadan ar raddfa lai gan ddefnyddio gweithfeydd wedi'u hailadeiladu. Ailagorwyd porthladd Abadan ym 1993.[3]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑ Habibi, Hassan (21 Mehefin 1369) (yn fa). Approval of the organization and chain of citizenship of the elements and units of the national divisions of Khuzestan province, centered in the city of Ahvaz (Adroddiad). Ministry of the Interior, Political and Defense Commission of the Government Board. Proposal 3233.1.5.53; Letter 907-93808; Notification 82830/T126K. Archifwyd o y gwreiddiol ar 2014-07-17. https://web.archive.org/web/20140717093724/https://rc.majlis.ir/fa/law/show/113029. Adalwyd 25 Ionawr 2024.
  2. ↑ (yn fa) (Excel) Census of the Islamic Republic of Iran, 1395 (2016): Khuzestan Province (Adroddiad). The Statistical Center of Iran. https://www.amar.org.ir/Portals/0/census/1395/results/abadi/CN95_HouseholdPopulationVillage_06.xlsx. Adalwyd 19 Rhagfyr 2022.
  3. 1 2 3 (Saesneg) Abadan. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Mai 2026.
  4. ↑ John H. Lorentz, Historical Dictionary of Iran (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2007), t. 1.