Basilica San Francesco d'Assisi
Gwedd
| Math | basilica babaidd, basilica minor, eglwys abadol |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Ffransis o Assisi |
| Sefydlwyd | |
| Nawddsant | Ffransis o Assisi |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Properties of the Holy See, Sacro Convento |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 14,563 ha |
| Cyfesurynnau | 43.07484°N 12.60581°E |
| Cod post | 06081 |
| Hyd | 80 metr |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | Italian Gothic architecture |
| Statws treftadaeth | ased diwylliannol yr Eidal, rhan o Safle Treftadaeth y Byd |
| Cysegrwyd i | Ffransis o Assisi |
| Manylion | |
| Esgobaeth | Roman Catholic Diocese of Assisi-Nocera Umbra-Gualdo Tadino |
Mynachlog ac eglwys yn Assisi yn Umbria, yr Eidal yw Basilica San Francesco d'Assisi (Eidaleg am "Eglwys Sant Ffransis o Assisi").
Ganed Sant Ffransis o Assisi yn Assisi yn 1186. Yn fuan wedi i’r Eglwys Gatholig ei gyhoeddi yn sant yn 1228, dechreuwyd adeiladu Basilica San Francesco d'Assisi, yn cynnwys mynachlog Ffransiscaidd a dwy eglwys. Enwyd y basilica, sy’n cynnwys arlunwaith ffresco gan Cimabue a Giotto, yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
Effeithiwyd ar Assisi gan y ddaeargryn a darawodd Umbria yn 1997, a lladdwyd pedwar person oedd tu mewn i'r Basilica ar y pryd. Gwnaed difrod sylweddol, a chaewyd y Basilica i'r cyhoedd am ddwy flynedd. Ail-agorodd wedi i'r gwaith adfer gael ei orffen.
