Neidio i'r cynnwys

Catrin (drama)

Oddi ar Wicipedia
Catrin
Enghraifft o:gwaith llenyddol, drama Edit this on Wikidata
AwdurF. George Fisher Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaY Fedal a Thlws y Ddrama Edit this on Wikidata
Lleoliad y perff. 1afEisteddfod Genedlaethol Cymru Dolgellau 1949 Edit this on Wikidata
Dyddiad y perff. 1af1949 Edit this on Wikidata
Dynodwyr

Drama lwyfan hanesyddol o waith F. George Fisher yw Catrin a enillodd Dlws y Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Dolgellau 1949. Llwyfannwyd y ddrama yn ystod yr Eisteddfod, ac aethpwyd ati i greu Cymdeithas Ddrama Llangefni yn unswydd er mwyn ei chynhyrchu, gan mai athro o'r dref oedd Fisher.[1]

Ymysg y cast roedd rhieni'r darlledwr Hywel Gwynfryn sy'n nodi mai ei fam [Lowri Evans] oedd yn portreadu'r prif gymeriad, 'Catrin' "y Llydawes yn Llys Llywelyn" ac yn actio gyda hi roedd Harri Pritchard Jones ["un ar bymtheg oed"], fel 'y ffŵl'.[1] Yn y cast hefyd roedd J. O. Roberts a thad y darlledwr, Gwynfryn Evans.[1]

Nododd Gwynfryn bod y cynhyrchiad wedi bod yn llwyddiant, gan ddenu gwahoddiad i ail-lwyfannu'r cynhyrchiad yn yr Ŵyl Ddrama Genedlaethol [cynta] Cymru.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1 2 3 4 Gwynfryn, Hywel (2004). Y Dyn 'i Hun. Gwasg Gwynedd.