Neidio i'r cynnwys

Cig moch

Oddi ar Wicipedia
Cig moch
Stribedi o facwn o fol y mochyn, heb eu coginio
Mathtoriad cyhyr cyfan amrwd, cig, cig moch Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0h0xm edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cig wedi'i halltu a ddaw o fochyn yw bacwn neu gig moch. Fe'i halltir gan ddefnyddio halen, naill ai mewn heli neu fel arall, gan wneud bacwn ffres. Wedi hynny gellir sychu'r bacwn ffres, ei ferwi, neu ei fygu, ac yna'i goginio cyn ei fwyta os nad yw wedi'i ferwi.

Daw bacwn o nifer o wahanol ddarnau o gig. Gelwir bacwn a ddaw o ystlys y mochyn yn gig moch cefn. Gelwir bacwn a ddaw o fol y mochyn yn gig moch brith neu'n gig moch rhesog, sef y cig sy'n cael ei ddefnyddio i wneud moch bach clyd fel arfer. Gelwir bacwn o ystlys mochyn yn hanerob.

Yn draddodiadol gadewir y croen ar y bacwn a elwir yn grawen neu'n donnen, ond gellir hefyd cael bacwn digrawen.

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]