Neidio i'r cynnwys

Cynghrair y Cenhedloedd

Oddi ar Wicipedia
Cynghrair y Cenhedloedd
Enghraifft o:sefydliad rhynglywodraethol, sefydliad rhyngwladol Edit this on Wikidata
Cyllidebrhyngwladoliaeth Edit this on Wikidata
Daeth i ben20 Ebrill 1946 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1919 Edit this on Wikidata
Lleoliad yr archifLa contemporaine Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadSecretary-General of the League of Nations Edit this on Wikidata
OlynyddY Cenhedloedd Unedig Edit this on Wikidata
Isgwmni/auWomen's Advisory Council, League of Nations, Permanent Court of International Justice, y Sefydliad Llafur Rhyngwladol Edit this on Wikidata
Pencadlyspalais Wilson, Palace of Nations Edit this on Wikidata
GwladwriaethY Swistir Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/04k4l edit this on wikidata
QuoraLeague-of-nations edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Corff cydwladol a grëwyd ym 1920 oedd Cynghrair y Cenhedloedd. Fe'i sefydlwyd yn sgil y Rhyfel Byd Cyntaf gyda'r bwriad o sefydlu heddwch yn y byd. Cyfarfu am y tro cyntaf ar 10 Ionawr 1920, yng Ngenefa yn y Swistir.[1]

Map o'r byd, gan ddangos aelodaeth y Gynghrair rhwng 1920–45. Glas tywyll: aelodau llawn; oren: aelodau rhanol (drwy fandad).

Ymgorfforwyd 'Cyfamod Cynghrair y Cenhedloedd' (ei dogfen sefydlu) yn y cytundebau heddwch a wnaed ar ôl y Rhyfel Mawr, ond gwrthodai'r Unol Daleithiau dderbyn Cytundeb Versailles ac o ganlyniad cafodd ei diarddel o'r Gynghrair. Roedd hyn yn llesteirio gwaith y sefydliad o'r cychwyn cyntaf bron. Serch hynny, llwyddai'r Gynghrair i wneud gwaith pwysig yn datrys anghydfod, yn trefnu cyngresau rhyngwladol ar sawl pwnc ac yn cyflawni gwaith dyngarol.[2]

Fodd bynnag, methodd y Gynghrair a delio â'r sefyllfa ryngwladol a ddatblygai yn y tridegau, megis rhyfel Siapan yn Tsieina, yr Eidal yn Ethiopia ac yn bennaf oll achos yr Almaen, a dynnodd allan o'r Gynghrair ym 1933.

Cymerodd y Cenhedloedd Unedig le'r Cynghrair ar ôl yr Ail Ryfel Byd.

Aberystwyth

[golygu | golygu cod]

Un o brif noddwyr a chefnogwyr y Gynghrair yng Nghymru oedd David Davies, Aelod Seneddol sir Drefaldwyn, ŵyr y diwydiannwr enwog o'r un enw ag ef. Roedd hefyd yn Llywydd Prifysgol Aberystwyth. Pan gynigiwyd, ym 1925, na ddylid cynnal y gynhadledd flynyddol (a oedd i fod yn Dresden), yn yr Almaen, cynigiodd David Davies Aberystwyth fel lleoliad iddi, a derbyniwyd hynny. Y flwyddyn wedyn, rhwng 29 Mehefin a 3 Gorffennaf 1926, cynhaliwyd Cynhadledd Flynyddol Cynghrair y Cenhedloedd yn Aberystwyth.[3].

Dyma rai o'r llefydd yr ymwelodd y Gynghrair â nhw:

  • 1919 Paris
  • 1919 Llundain
  • 1919 Brwsel
  • 1920 Milan
  • 1920 Genefa
  • 1922 Prag
  • 1923 Fienna
  • 1924 Lyon
  • 1925 Warsaw
  • 1926 Aberystwyth
  • 1927 Berlin
  • 1928 Yr Hâg
  • 1928 Prag
  • 1929 Madrid
  • 1934 Brwsel
  • 1936 Genefa

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Christian, Tomuschat (1995). The United Nations at Age Fifty: A Legal Perspective. Martinus Nijhoff LOLPublishers. t. 77.
  2. "Covenant of the League of Nations". The Avalon Project. Cyrchwyd 30 Awst 2011.
  3. The League of Nations Visit to Aberystwyth; adalwyd 17 Mehefin 2016.