Daniel O'Connell
| Daniel O'Connell | |
|---|---|
| Ffugenw | the Liberator, the Emancipator |
| Ganwyd | 6 Awst 1775 Cathair Saidhbhín |
| Bu farw | 15 Mai 1847 Genova |
| Man preswyl | Douai, Dulyn |
| Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
| Alma mater |
|
| Galwedigaeth | gwleidydd, bargyfreithiwr, ysgrifennwr |
| Swydd | Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 10fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 9fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 8fed Senedd y Deyrnas Unedig |
| Plaid Wleidyddol | Radicals |
| Tad | Morgan O'connell |
| Mam | Catherine O'mullane |
| Priod | Mary O'Connell |
| Plant | Morgan O'connell, Daniel O'connell, Maurice O'connell, John O'connell, Ellen Fitzsimon, Catherine O'connell, Edward O'connell, Elizabeth Mary O'connell, Daniel Stephen O'connell, Mary O'connell, Rickarda O'connell |
| Perthnasau | Máire Ní Dhonnchadha Dhuibh, Eibhlín Dhubh Ní Chonaill |
| llofnod | |
Gwleidydd o Iwerddon a ymgyrchodd dros ryddid crefyddol i Gatholigion Iwerddon oedd Daniel O'Connell (Gwyddeleg: Dónal Ó Conaill) (6 Awst 1775 – 15 Mai 1847). Roedd y brydyddes Wyddeleg Eibhlín Dhubh Ní Chonaill yn fodryb iddo.
Yn ystod y 1820au gwethiai'n ddyfal dros ennill yr hawl i eistedd yn Senedd Prydain gan Gatholigion, "braint" oedd yn gyfyngedig i Brostestanniaid yn unig yr adeg honno. Roedd yn Gatholig ei hun a phan enillodd sedd fel Aelod Seneddol Swydd Clare yn 1828 bu rhaid i lywodraeth Prydain Fawr ildio. Ar ôl hynny cafodd ei lysenwi 'Y Rhyddhawr'.
Ei uchelgais nesaf oedd ceisio gwrthddeddfu Undeb Iwerddon â Phrydain Fawr, ond methiant fu hynny, yn rhannol am iddo golli cefnogaeth y mudiad mwy chwyldroadol Iwerddon Ifanc (Young Ireland).