Gareth Llewellyn
| Gareth Llewellyn | |
|---|---|
| Ganwyd | 27 Chwefror 1969 Pen-y-bont ar Ogwr |
| Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
| Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
| Taldra | 198 centimetr |
| Pwysau | 114 cilogram |
| Plant | Max Llewellyn |
| Chwaraeon | |
| Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Racing Club Narbonnais, C.P.D. Harlecwin, Eirth Bryste, Clwb Rygbi Castell-nedd, Y Gweilch |
| Safle | Clo |
| Gwlad chwaraeon | Cymru |
Mae Gareth Llewellyn (ganwyd 24 Chwefror 1969 ym Mhen-y-bont ar Ogwr) yn chwaraewr Rygbi'r Undeb a enillodd 92 o gapaiau dros Gymru fel clo.
Mae Llewellyn wedi chwarae rygbi dros glybiau Gastell Nedd, Harlequins, Y Gweilch a Narbonne, ac ymunodd â Bristol Shoguns ar ddechrau tymor 2005-6.
Chwaraeodd ei gêm gyntaf dros Gymru yn erbyn y Crysau Duon yn 1989 ac aeth yn ei flaen i ennill 92 o gapiau, gan guro'r record o 87 a ddelid gan Neil Jenkins yn y gêm brawf yn erbyn yr Ariannin ar 12 Mehefin 2004. Parhaodd y record yma nes i Gareth Thomas ennill ei 93eg cap yn 2007.
Bu'n gapten Cymru saith gwaith, a chwaraeodd mewn tair Cwpan y Byd - 1995, 1999 a 2003. Chwaraeodd rygbi rhyngwladol mewn tri degawd gwahanol a than wyth hyfforddwr gwahanol. Ar ôl i Gymru ennill Y Gamp Lawn yn 2005, cyhoeddodd ei ymddeoliad o rygbi rhyngwladol.
Mae ei frawd, Glyn Llewellyn, hefyd wedi chwarae rygbi dros Gymru.