Girolamo Savonarola
Gwedd
| Girolamo Savonarola | |
|---|---|
| Ganwyd | 21 Medi 1452 Ferrara |
| Bu farw | 23 Mai 1498 o crogi piazza della Signoria, Fflorens |
| Dinasyddiaeth | Dugiaeth Ferrara, Gweriniaeth Fflorens |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gwleidydd, athronydd, clerigwr rheolaidd, ysgrifennwr, pregethwr, diwinydd, diwygiwr cymdeithasol, reformer |
| Cyflogwr | |
| Adnabyddus am | De doctrina Aristotelis, Sermons, Trattato sul governo di Firenze, In psalmum "Miserere", In psalmum "In te, Domine, speravi", Breviario, Rime, Letters, De veritate prophetica dyalogus, Apologeticus de ratione poeticae artis, Compendium philosophiae naturalis, Compendium philosophiae moralis, Compendium logicae |
| Mudiad | athroniaeth y Gorllewin |
| llofnod | |
Brawd Dominicaidd a diwygiwr eglwysig o'r Eidal oedd Girolamo Savonarola (21 Medi 1452 – 23 Mai 1498).[1] Ganwyd ef yn Ferrara ac astudiodd yn Bologna. Bu'n weithgar fel pregethwr yn Fflorens yn ystod y 1480au a'r 1490au a denodd dyrfaoedd mawr. Daeth yn adnabyddus am ei arddull broffwydol. Galwodd am adnewyddiad Cristnogol a gwadu llygredd yn yr eglwys a'r wladwriaeth. Ysgogodd ddinistrio celf a diwylliant seciwlar gan gynnwys llyfrau, yr hyn a elwir yn "goelcerth y gwageddau". Arweiniodd ei weithrediaeth at wrthdaro â'r Pab Alecsander VI. Cafodd ei ysgymuno ac yn ddiweddarach fe'i cafwyd yn euog o heresi a'i losgi wrth y stanc.[2]

Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Girolamo Savonarola". The Catholic Encyclopedia (yn Saesneg). Cyrchwyd 23 Ebrill 2024.
- ↑ Luca Landucci, A Florentine Diary from 1460 to 1516 trans. Alice De Rosen Jervis (Llundain, 1927) pp. 142–143.