Gŵyl Fach y Fro
| Enghraifft o: | gŵyl, gŵyl gerddoriaeth |
|---|---|
| Dechrau/Sefydlu | 2015 |
| Genre | Pop Cymraeg, canu gwerin |
| Lleoliad | y Barri |
| Gwladwriaeth | Cymru |
| Dynodwyr | |
Mae Gŵyl Fach y Fro yn ŵyl Gymraeg flynyddol a gynhelir ar bromenâd Glanfa Gwynfor, y Barri yn dathlu diwylliant Gymraeg. Trefnir hi gan Fenter Iaith Bro Morgannwg. Sefydlwyd hi yn 2015 a chynhelir yr ŵyl yn ystod wythnosau amrywiol ym misoedd Mai, Mehefin, a Gorffennaf. Mae'r ŵyl yn cynnwys cyngerdd pop Cymraeg am ddim a hefyd gweithgareddau gydag ysgolion a siaradwyr eraill.[1]
Esblygu
[golygu | golygu cod]Ers sefydlu'r Ŵyl gyntaf o dan adain Menter Caerdydd a llwyddiant Tafwyl, mae Gŵyl Fach y Fro wedi tyfu ac esblygu. Yn 2016 cyflwynwyd elfennau newydd sydd wedi aros ers hynny, mae hyn yn cynnwys: stondinau cynnyrch a chrefftau Cymreig gan ddarparwyr lleol, wedi eu lleoli yn cytiau traeth ar y promenâd. Ceir adloniant stryd a gweithdai, sioeau ac amser stori i blant. Cadwyd gweithgareddau amrywiol gan bartneriaid Cymraeg yr ardal gan gynnwys Canolfan Cymraeg Bro Morgannwg, Mudiad Meithrin ac Adran Chwaraeon yr Urdd. Mae’r datblygiadau newydd hefyd yn cynnwys bar yn gwerthu alcohol a diodydd ysgafn a stondinau bwyd.[1]
Dros y blynyddoedd cafwyd sesiynau barddoniaeth, gweithdai gyda chyflwynwyr a chymeridau rhaglen Cyw ar S4C, a pherfformwyr fel Meic Stevens.[2]
Uchafbwyntiau
[golygu | golygu cod]
Dyma grynodeb o'r gwyliau - dylid nodi na chynhaliwyd yr Ŵyl 2020 a 2021 oherwydd cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.
2015
[golygu | golygu cod]Cynhaliwyd ar 11 Gorffennaf ar Bromenâd y Dwyrain, gyda 1,700 o bobl yn mynychu, a pherfformiadau gan ysgolion lleol, Wonderbrass, Carwyn Ellis, Kizzy Crawford, Al Lewis a Kookamunga.[3][4]
2016
[golygu | golygu cod]Yn perfformio bu Sŵnami, Sorela, Meic Stevens, Wonderbrass, Hanna Morgan (cantores lleol a chyn-ddisgybl Ysgol Gyfun Bro Morgannwg) a Lost in Chemistry (band ifanc o’r Barri, ac enillwyr Brwydr y Bandiau C2/Maes B 2015. Cafwyd adloniant stryd a gweithdai gyda’r perfformwyr syrcas NoFit State; gweithdai ac arddangosfeydd Cardiff Arts Collective; Sioe, Amser Stori a Helfa Drysor gyda chyflwynwyr a chymeriadau Cyw; a gweithgareddau amrywiol gan bartneriaid Cymraeg yr ardal gan gynnwys Canolfan Cymraeg Bro Morgannwg, Mudiad Meithrin ac Adran Chwaraeon yr Urdd.[1]
2017
[golygu | golygu cod]Perfformiadau gan Bryn Fôn a’r Band, Candelas, HMS Morris, Eädyth Crawford, Band Nantgarw a Band Jazz Rhys Taylor. Hefyd, bu cannoedd o blant o ysgolion Cymraeg y Sir berfformio yn ystod y diwrnod, yn cael ei gyflwyno gan y DJs Elan Evans a Bethan Elfyn. Bu stondinau cynnyrch a chrefftau Cymreig gan ddarparwyr lleol yn yr ŵyl yn oystal ag ardal chwarae, beiciau bybls, sgiliau syrcas, wâc welis ar y traeth, gweithdai a gweithgareddau amrywiol gan bartneriaid Cymraeg yr ardal gan gynnwys Canolfan Cymraeg i Oedolion Bro Morgannwg, Cymraeg i Blant, Mudiad Meithrin ac Adran Chwaraeon yr Urdd.[5][6]
2018
[golygu | golygu cod]
Yn perfformio yn yr Ŵyl yn 2018 roedd: Candelas, Geraint Lovgreen a’r Enw Da, Alys Williams a’r Band, Al Lewis, Mabli Tudur a’r Band, Fleur de Lys, Wigwam, a setiau gan y DJs Bethan Elfyn a Gareth Potter.[7]
2019
[golygu | golygu cod]Cyflwyniadau gan gyflwynwyr Cyw, gweithdy barddoniaeth i blant, cerddoriaeth gan Bronwen Lewis, Meic Stevens, [8] The Gentle Good, Chroma, Bwncath, Bronwen Lewis, Canfas (grŵp o ddisgyblion Ysgol Gyfun Bro Morgannwg) a Dagrau Tân (band Ysgol Sant Baruc). Am y tro cyntaf eleni, bydd Sioe Cyw hefyd yn ymddangos ar y Prif Lwyfan i gynnig adloniant i’r plant lleiaf.[9]
2022
[golygu | golygu cod]Perfformid gan Huw Chiswell.[10] Morgan Elwy, Bwncath, Hana Lili, Lily Beau, Sorela, Papur Wal.[11]
2023
[golygu | golygu cod]Ymysg y perfformwyr a'r arlwy oedd: Gwilym, Tara Bandito a N’Famady Kouyaté fel prif atyniadau, Hana Lili, Los Blancos, Dom James & Lloyd Lewis, Parisa Fouladi, Dagran Tân ac enillydd diweddar gwobr Record Hir Orau Gwobrau’r Selar, Angharad Rhiannon.[12]
2024
[golygu | golygu cod]Perfformiadau gan Fleur de Lys, Lowri Evans, Sage Todz & Parisa Fouladi, Wigwam a Gwcci. Cafwyd hefyd lwyfan newydd ar gyfer cerddoriaeth werin gydag artistiaid megis Bethan Nia, Brigyn and Lo-Fi Jones. Cafwyd hefyd berfformiadau gan gorau ysgolion lleol Cymraeg.[13]
2025
[golygu | golygu cod]Perfformiadau gan Bwncath, Tara Bandito, Gai Toms, Taran, detholiad o sioe gerdd Les Misérables gan ysgolion Bro Morgannwg ynghyd.[14]
2026
[golygu | golygu cod]Ymysg artistiaid Gŵyl 2026 oedd; Aleighcia Scott, Celt, Daniel Lloyd a Mr Pinc, Mei Gwynedd, a mwy. Mewn partneriaeth newydd rhwng Run 4 Wales (R4W) a Gŵyl Fach y Fro yn cynnwys ras 10k Ynys y Barri ddydd Sul 17 Mai.[15] Cafwyd sylw hefyd i'r ŵyl ar orsaf radio lleol, Radio Bro.[16]
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan Menter Bro Morgannwg
- @GwylFachyFro tudalen Facebook
- Eitem ar Gŵyl Fach y Fro 2024 ar raglen Heno
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- 1 2 3 "Datganiad i'r Wasg Gŵyl Fach y Fro 2016" (PDF). Gŵyl Fach y Fro. 2016.
- ↑ "Oriel: Gŵyl Fach y Fro 2019". BBC Cymru Fyw. 17 Mehefin 2019.
- ↑ "Dathlu Llwyddiant Gŵyl Fach y Fro" (PDF). Menter Iaith Bro Morgannwg. 1016. Cyrchwyd 19 Awst 2026.
- ↑ "Lluniau Gŵyl Fach y Fro". Facebook Menter Iaith Bro Morgannwg. 2016. Cyrchwyd 19 Awst 2026.
- ↑ "Lansio Gŵyl Fach y Fro 2017" (PDF). Menter Iaith Bro Morgannwg. Cyrchwyd 19 Awst 2026.
- ↑ "Candelas a MHS Morris yng Ngwyl Fach y Fro". Y Selar. 2017. Cyrchwyd 19 Awst 2026.
- ↑ "Cyhoeddi Lein-yp Gŵyl Fach y Fro". Golwg. 2018. Cyrchwyd 19 Awst 2026.
- ↑ "Oriel: Gŵyl Fach y Fro 2019". BBC Cymru Fyw. 17 Mehefin 2019.
- ↑ "Cyhoeddi Rhaglen Gŵyl Fach y Fro 2019". BBC Cymru Fyw. 16 Ebrill 2019.
- ↑ "Oriel Luniau Gŵyl Fach y Fro". Gwefan Lleol.Net. 2022. Cyrchwyd 19 Awst 2026.
- ↑ "Line Up Llawn Gŵyl Fach y Fro". Tudalen Facebook Gŵyl Fach y Fro. 2022. Cyrchwyd 19 Awst 2026.
- ↑ "Cyhoeddi lein-yp Gŵyl Fach y Fro 2023". Y Selar. 23 Mawrth 2023.
- ↑ "Gŵyl Fach y Fro Returnsto Barry Island: A Celebration of Welsh Arts and Culture". Wales247. 25 Mawrth 2024. Cyrchwyd 19 Awst 2026.
- ↑ "Lluniau: Gŵyl Fach y Fro". BBC Cymru Fyw. 20 Mai 2025.
- ↑ "Gŵyl Fach y Fro Festival". Gwefan Barry Island. 2026. Cyrchwyd 19 Awst 2026.
- ↑ "Gwyl Fach y Fro". Facebook Bro Radio. 16 Mai 2026.