Helgoland
| Math | coastal spa, ynysfor, municipality without town privileges in Germany, car-free place |
|---|---|
| Prifddinas | Helgoland |
| Poblogaeth | 1,253 |
| Gefeilldref/i | Millstatt am See |
| Iaith/Ieithoedd swyddogol | Almaeneg, North Frisian |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | North Frisian Islands |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 4.21 km² |
| Uwch y môr | 40 metr |
| Gerllaw | Heligoland Bight |
| Cyfesurynnau | 54.1825°N 7.8853°E |
| Cod post | 27498 |
![]() | |
Ynys fechan yw Helgoland (Almaeneg; Helgolandeg: deat Lun; hefyd Heligoland weithiau, yn enwedig yn Saesneg) a leolir ym Môr y Gogledd oddi ar arfordir gogledd-orllewinol yr Almaen. Defnyddir yr enw i gyfeirio at Helgoland a'r ynys fechan gyfagos gyda'i gilydd weithiau hefyd. Mae'n rhan o dalaith Schleswig-Holstein. Mae'r trigolion yn Ffrisiaid sy'n siarad Halunder, tafodiaith Ffriseg. Ei hyd yw tua 2 km.
Cipwyd yr ynys gan Brydain yn 1807 a bu yn ei meddiant hyd 1890 pan ddychwelodd i feddiant yr Almaen. Roedd y môr o'i chwmpas, sef yr Heligoland Bight neu'r "German Bight" yn lleoliad i sawl brwydr rhwng llyngesoedd y DU a'r Almaen yn y Rhyfel Byd Cyntaf
Cyfansoddodd August Heinrich Hoffmann von Fallersleben "Das Lied der Deutschen" ar 26 Awst 1841 ar ynys Helgoland i gydfynd ag alaw gan Joseph Haydn.
Heddiw mae Helgoland yn gyrchfan gwyliau poblogaidd sy'n adnabyddus am ei tywynnau a chlogwynni lle ceir nifer o adar.
