Jaws
Poster y Ffilm | |
|---|---|
| Cyfarwyddwr | Steven Spielberg |
| Cynhyrchydd | David Brown Richard D. Zanuck |
| Ysgrifennwr | Stori Peter Benchley Sgript Peter Benchley Carl Gottlieb Howard Sackler |
| Serennu | Roy Scheider Robert Shaw Richard Dreyfuss Lorraine Gary Murray Hamilton |
| Cerddoriaeth | John Williams |
| Sinematograffeg | Bill Butler |
| Golygydd | Verna Fields |
| Dylunio | |
| Dosbarthydd | Universal Studios |
| Dyddiad rhyddhau | 20 Mehefin 1975 |
| Amser rhedeg | 124 munud |
| Gwlad | UDA |
| Iaith | Saesneg |
| Cyllideb | $7,000,000 |
| Refeniw gros | $470,653,000 (byd eang) |
| Olynydd | Jaws 2 |
| (Saesneg) Proffil IMDb | |
Mae Jaws (1975) yn ffilm gyffro a gyfarwyddwyd gan Steven Spielberg ac sy'n seiliedig ar nofel boblogaidd Peter Benchley a ysbrydolwyd gan yr ymosodiadau gan forgi ar Lannau Jersey ym 1916. Mae un o swyddogion yr heddlu yn nhref glan môr dychmygol, Ynys Amity yn ceisio amddiffyn y bobl ar y traeth o forgi mawr gwyn sy'n nofio'n agos i'r lan. Caiff ei awdurdod ei danseilio gan gyngor y dref sydd eisiau i'r traeth i barhau ar agor er mwyn elwa o arian y twristiaid dros fisoedd yr haf. Ar ôl nifer o ymosodiadau, gofynna'r heddlu am gymorth wrth fiolegwr morol a heliwr morgwn porffesiynol. Mae Roy Scheider yn chwarae rhan swyddog yr heddlu, Richard Dreyfuss fel y biolegwr morol Matt Hooper, Robert Shaw fel yr heluwr morgwn Quint, Lorraine Gary fel gwraig Brody, Ellen, a Murray Hamilton fel y Maer Vaughn.
Ystyrir fod Jaws wedi torri tir newydd ym myd y ffilmiau mawrion. Dyma oedd y ffilm hafaidd fawr gyntaf. Yn sgîl llwyddiant y ffilm, penderfynodd cyfarwyddwyr y stiwdios y dylent ryddhau'r ffilm ar raddfa llawer ehangach nag a wnaethpwyd yn flaenorol. Arweiniodd hyn at ffilmiau fel The Omen (1976) ac yna Star Wars (1977) yn cael eu rhyddhau yn ystod yr Haf, gan ddechrau ar draddodiad o ryddhau ffilmiau anturus a chyffrous yn ystod misoedd yr Haf. Rhyddhawyd tair ffilm fel dilyniant i'r Jaws gwreiddiol (Jaws 2 (1978), Jaws 3-D (1983) a Jaws: The Revenge (1987)) ond ni weithiodd Spielberg na Benchley ar yr un ohonynt. Yn 2006, rhyddhawyd gêm fideo o'r enw Jaws Unleashed.