June Wyndham Davies
| June Wyndham Davies | |
|---|---|
| Ganwyd | 27 Mehefin 1929 |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | cyfarwyddwr teledu, actor, cynhyrchydd teledu, cyfarwyddwr ffilm |
Cynhyrchydd a chyfarwyddwr teledu o Gymru oedd June Wyndham Davies (27 Mehefin 1929 – 9 Medi 2026). [1] Fel cyd-gynhyrchydd y ffilm August, enillodd wobr BAFTA Cymru ym 1997. Ysgrifennodd nifer o straeon byrion a dramâu hefyd.
Cafodd Wyndham Davies ei geni yng Nghaerdydd, yn ferch i Mervyn a Despina Wyndham Davies o Landaf. Gwasanaethodd Mervyn fel swyddog yn yr Ail Ryfel Byd ac roedd Despina (merch y peiriannydd James Wyndham, yn ddawnswraig bale. Mynychodd June ysgol gwfaint Elm Tree House cyn symud i Lundain i hyfforddi yn Academi Frenhinol Gelf Ddramatig. Roedd hi'n actores deledu yn yr 1950au a'r 1960au. Enillodd wobr BAFTA Cymru am y Ddrama Orau, fel cyd-gynhyrchydd y ffilm August (1996). Cyfarwyddwyd y ffilm gan Anthony Hopkins, a chwaraeodd ran Ieuan ynddi hefyd; cyd-gynhyrchwyd hi gan Pippa Cross.
Bu farw yn Sbaen, yn 97 oed.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "June Wyndham-Davies". BFI Film Forever. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 14 January 2009. Cyrchwyd 3 August 2017.
- ↑ Monty, Scott (10 Medi 2026). "June Wyndham Davies, Producer of Granada Sherlock Holmes Series, Aged 97" (yn Saesneg). I Hear of Sherlock Everywhere. Cyrchwyd 11 Medi 2026.