Pont Gustave-Flaubert
Gwedd
| Math | vertical-lift bridge, pont ffordd |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Gustave Flaubert |
| Agoriad swyddogol | 25 Medi 2008 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Q109659980 |
| Lleoliad | Rouen |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 49.4436°N 1.0642°E |
| Hyd | 670 metr |
![]() | |
| Deunydd | concrit |
Pont dros Afon Seine yn ninas Rouen yn Normandi, Ffrainc yw Pont Gustave-Flaubert. Fe'i henwir ar ôl y llenor Gustave Flaubert, awdur y nofel Madame Bovary, a aned yn Rouen. Ei hyd yw 670 metr (2,200 troedfedd).
Agorwyd y bont yn swyddogol ar 25 Medi 2008 ar ôl pedair blynedd o waith. Mae'n bont sy'n codi'n syth i fyny (vertical-lift bridge) wedi'i hadeiladu o goncrit a dur. Amcangyfrifir ei bod wedi costio 60 miliwn ewro. Dechreuodd y gwaith ym mis Mehefin 2004. Penderfynodd Cyngor Dinas Rouen ei henwi ar ôl Flaubert ar 15 Rhagfyr 2006.
Mae'r bont yn cysylltu priffyrdd yr A13 gyda'r A29 a'r A28. Y bwriad yw lleihau'r traffig yn ardal gorllewinol Rouen tra'n ei chysylltu gydag ardal economaidd Rouen a phorthladd y ddinas.

