Rhyfel Gaza (2023–26)
Mae angen diweddaru'r erthygl hon. Gallwch helpu drwy newid yr erthygl i adlewyrchu digwyddiadau diweddar neu ychwanegu gwybodaeth newydd. |
Dinas yn Llain Gaza yn Ionawr 2024, wedi'i fomio gan fyddin Israel. | |
| Enghraifft o: | rhyfel |
|---|---|
| Dyddiad | 2020s |
| Lladdwyd | 67,000 |
| Rhan o | Gwrthdaro Israel-Gaza, Argyfwng y Dwyrain Canol (2023-presennol) |
| Dechreuwyd | 7 Hydref 2023 |
| Daeth i ben | Unknown |
| Rhagflaenwyd gan | 2023 Israeli–Palestinian crisis |
| Lleoliad | Lefant, Iemen, Iran, Israel, Gwladwriaeth Palesteina |
| Yn cynnwys | Cyrch Llif al-Aqsa, goresgyniad Llain Gaza gan Israel, ymosodiadau gan fyddin Israel ar ysbytai yn ystod Rhyfel Israel-Palesteina yn 2023 a 2024, ymosodiadau o'r awyr gan Israel ar wersylloedd sifiliaid Palesteinaidd yn Rhyfel Israel-Palesteina 2023 a 2024, ymosodiadau o'r awyr gan Israel ar ysgolion Palesteinaidd yn Rhyfel Israel-Palesteina 2023 a 2024, May 2025 Gaza offensive, Houthi attacks on commercial vessels, Al-Tabaeen school attack, Tel al-Sultan camp airstrike, September 2025 Israeli attacks in Yemen |
| Enw brodorol | عملية طوفان الاقصى |
| Rhanbarth | Israel, Llain Gaza |
| Dynodwyr | |
- Ceir hefyd: Goresgyniad Llain Gaza gan Israel (2023‒25)
Rhan o'r gwrthdaro rhwng Israel a'r Palesteiniaid yn Llain Gaza yw Rhyfel Gaza (2023) a sbardunwyd gan ymosodiad o dir Israel a lansiwyd o'r Llain ar 7 Hydref 2023. Y prif garfan Palesteinaidd yw Hamas, a lywodraetha Llain Gaza ers 2007, ac ymhlith y grwpiau Palesteinaidd llai mae Mudiad y Jihad Islamaidd, y Ffrynt Democrataidd (DFLP), a Gwâl y Llewod. Bu'r goresgyniad, a elwir yn Cyrch Llif al-Aqsa gan Hamas, yn cynnwys ymosodiadau yn erbyn cymunedau a sifiliaid yn ogystal â chyrchoedd ar dargedau milwrol.[1] Ymatebodd Lluoedd Amddiffyn Israel (IDF) gyda'r gwrthymosodiad Ymgyrch Cleddyfau Haearn.[2]
Mae'r rhyfel yn cynrychioli trobwynt yn y gwrthdaro Israelaidd-Palesteinaidd, a'r gwrthdaro rhwng Israel ac Hamas yn benodol. Rhagflaenwyd yr ymladd gan flwyddyn o drais, gan gynnwys ymledu'r gwladfeydd Israelaidd yn y Lan Orllewinol a thrais gan setlwyr yn erbyn Palesteiniaid,[3] cyrch milwrol ar wersyll ffoaduriaid Jenin, terfysg ym Mosg Al-Aqsa yn Jeriwsalem, a brwydro yn Gaza. Yn 2023, hyd at gychwyn y rhyfel, lladdwyd o leiaf 247 o Balesteiniaid gan luoedd Israel, a 32 o Israeliaid a dau dramorwr gan Balesteiniaid. Datganodd Hamas yn Hydref 2023 bod y digwyddiadau hyn yn gyfiawnhad am y goresgyniad, a galwyd ar yr holl Balesteiniaid i ymuno â'r frwydr i "yrru'r meddianwyr allan a dymchwel y muriau". Mewn ymateb, cyhoeddodd Benjamin Netanyahu, Prif Weinidog Israel, argyfwng a rhyfel, ac mae rhai o'r gwrthbleidiau wedi galw am ffurfio llywodraeth undod cenedlaethol.[4]
Dechreuodd yr ymladd yn y bore ar 7 Hydref 2023 pan saethwyd o leiaf 3000 o rocedi gan Hamas tuag at Israel, a chyrchoedd ar diriogaeth Israel gyda cherbydau.[5] Torrodd lluoedd Palesteinaidd hefyd drwy'r gwahanfur rhwng Israel a Llain Gaza a thrwy croesfannau ar y ffin, ac ymosodasant ar gymunedau ac adeiladau milwrol Israelaidd cyfagos, gan ladd 1,200 o Israeliaid a dinasyddion o wledydd eraill.[6] Cyflawnwyd trais yn erbyn sifiliaid gan ryfelwyr Hamas o'r cychwyn, gan gynnwys cyflafan mewn gŵyl cerddoriaeth a laddodd o leiaf 260 o bobl. Mae rhyw 200 o filwyr a sifiliaid Israelaidd, gan gynnwys plant, wedi eu herwgipio gan ymladdwyr Palesteinaidd ac wedi eu cymryd yn wystlon yn Llain Gaza.[7]
Aeth Israel ati i alw'r lluoedd wrth gefn a chlirio'r ymladdwyr Palesteinaidd o'i thiriogaeth, a thalu'r pwyth yn ôl gyda chyrchoedd awyr ar dargedau milwrol a strategol yn Llain Gaza. Mae dwysedd poblogaeth y llain yn hynod o uchel, a cafwyd o leiaf 20 o achosion o ffrwydron yn taro isadeiledd sifil, gan gynnwys cartrefi, mosgiau, ac ysbytai. Yn ôl y Weinyddiaeth Iechyd yn Gaza, bu farw o leiaf 900 o Balesteiniaid yn ystod tridiau cyntaf y rhyfel, mewn ysgarmesau saethu ac o ganlyniad i gyrchoedd awyr, gan gynnwys 260 o blant. Hawliodd yr IDF ladd "mwy na 1,500" o ymladdwyr Palesteinaidd y tu mewn i ffiniau Israel. Cyhoeddodd y Cenhedloedd Unedig bod mwy na 200,000 o Balesteiniaid—un o bob deg o boblogaeth Llain Gaza—wedi eu dadleoli ers dechrau'r brwydro. Cynyddodd y braw o argyfwng dyngarol wed i Israel dorri cyflenwadau bwyd, dŵr, trydan, a thanwydd i'r llain, a fu dan warchae ers 2007.[8]
Condemniwyd Hamas gan nifer o wledydd y Gorllewin,[9] a chafodd yr ymosodiadau eu hystyried yn derfysgaeth.[10] Mae nifer o wledydd eraill, yn enwedig yn y byd Mwslimaidd, wedi disgrifio meddiannaeth y Tiriogaethau Palesteinaidd a'r gwarchae ar Lain Gaza fel achos sylfaenol y gwrthdaro ac yn rhoi'r bai ar lywodraeth Israel am waethygu'r sefyllfa, ac yn galw am ddatchwyddo'r ymladd a chyhoeddi cadoediad.[11][12] Cyhuddwyd Hamas ac Israel ill dau o droseddau rhyfel gan Human Rights Watch.[13] Datganodd llywodraeth Unol Daleithiau America y byddai'n cefnogi Israel trwy symud ei chludydd awyrennau USS Gerald R. Ford a'i grŵp brwydro, a jetiau milwrol, i ddwyrain Môr y Canoldir a darparu cyfarpar a ffrwydron rhyfel ychwanegol i'r IDF.[14] Erbyn 8 Hydref ymledodd y gwrthdaro i Libanus, gyda Hezbollah a Brigadau Al-Quds yn brwydro'n erbyn lluoedd Libanus ac Israel.[15][16]
Ymosodiadau Hamas ar Israel
[golygu | golygu cod]- Prif: Cyrch Llif al-Aqsa
Cyhoeddwyd cychwyn Cyrch Llif al-Aqsa gan Muhammad Deif, arweinydd milwrol Hamas, wrth i'r ymosodiadau ddechrau ar fore 7 Hydref 2023. Lladdwyd cannoedd o sifiliaid mewn ymosodiadau ar drefi a chibwtsau yn y gororau. Rhoes Israel ei lluoedd ar eu gwyliadwriaeth ymhen dwy awr, a chychwynnodd cyrchoedd awyr ar Lain Gaza gan Awyrlu Israel. Trannoeth y drin, ar 8 Hydref, cyhoeddodd Israel yn ffurfiol gyflwr rhyfel, y tro cyntaf i Erthygl 40A o'r Gyfraith Sylfaenol gael ei galw i rym ers Rhyfel Yom Kippur ym 1973.
Ymgyrch Israel yng ngogledd Llain Gaza
[golygu | golygu cod]Ehangu'r gwarchae
[golygu | golygu cod]Ar 9 Hydref cyhoeddodd Yoav Gallant, Gweinidog Amddiffyn Israel, gwarchae "llwyr" ar Lain Gaza, gan gynnwys torri cyflenwadau trydan ac atal bwyd a thanwydd rhag mynd i mewn i'r diriogaeth. Meddai, "rydym yn ymladd ag anifeiliaid dynol ac yr ydym yn gweithredu yn gyfatebol". Ail-gyhoeddwyd difrifoldeb y gwarchae ar 12 Hydref, pan cyhoeddodd y llywodraeth na fydd Llain Gaza yn derbyn dŵr, tanwydd, na thrydan nes i'r gwystlon Israelaidd yn y diriogaeth gael eu rhyddhau.
Cyrchoedd awyr
[golygu | golygu cod]Cynyddodd cyrchoedd awyr gan yr IDF ar 11 Hydref, a chafodd nifer o adeiladau Prifysgol Islamaidd Gaza eu dinistrio gan awyrennau Israel. Yn ogystal, cafodd croesfan Rafah ar y ffin rhwng Llain Gaza a'r Aifft ei thargedu gan yr IDF.
Ar 11 Hydref, cyhoeddodd Gweinyddiaeth Iechyd Palesteina 1,055 o farwolaethau a 5,184 o anafiadau o ganlyniad i gyrchoedd awyr Israel, a 2,600 o bobl wedi'u dadleoli'n fewnol. Yn ôl y Cenhedloedd Unedig, cynyddodd y ffigur ganplyg i 260,000 o drigolion Gaza wedi eu dadleoli.
Gwacâd a dadleoli
[golygu | golygu cod]Ar 13 Hydref 2023, gorchmynnodd yr IDF wacâd y rhan o Lain Gaza i ogledd Wadi Gaza, gan gynnwys Dinas Gaza, gan gyfarwyddo holl sifiliaid yr ardal—rhyw 1.1 miliwn o bobl—i symud i ddeheubarth y llain ymhen 24 awr. Gollyngodd yr IDF daflenni o'r awyr ar Ddinas Gaza yn cyfarwyddo sifiliaid i "ymadael i'r de er diogelwch eich hunain a diogelwch eich teuluoedd" ac i "ymddieithrio'ch hunain oddi wrth derfysgwyr Hamas sy'n defnyddio chi fel tarianau dynol". Ffoes yr ymadawyr mewn ceir, bysiau bychain a chertiau mulod, ac ar gerdded, er gwaetha'r prinder tanwydd o ganlyniad i'r gwarchae, a ffyrdd a ddinistriwyd gan fomiau'r IDF.[17][18] Erbyn 14 Hydref symudodd cannoedd o filoedd ohonynt tua'r de.
Er i Israel annog i bobl ymadael er diogelwch eu hunain, cafodd cerbydau a oedd yn cludo sifiliaid ar hyd ffordd Salah-a-Din, un o'r ddau lwybr tua'r de, eu bomio gan yr IDF yn hwyr y prynhawn ar 13 Hydref. Yn ôl gweinyddiaeth iechyd Palesteina, lladdwyd 70 o bobl yn y cyrch awyr.[19]
Cafodd croesfan Rafah ei chau gan yr Aifft, a'i hagor ar achlysuron i alluogi dinasyddion tramor i ddianc Llain Gaza. Ni chaniateir i drigolion Palesteinaidd groesi'r ffin. Fodd bynnag, mae nifer ohonynt wedi ymgasglu yn y fan honno yn y gobaith byddai'r Aifft yn derbyn ffoaduriaid.[20]
Goresgyniad Llain Gaza
[golygu | golygu cod]Er i Israel dynnu ei lluoedd a'i setlwyr yn ôl o'r diriogaeth yn 2005, mae wedi dychwelyd mewn sawl ymgyrch a gwrthdaro ers hynny, gan gynnwys Ymgyrch Plwm Bwrw (2008–09), Ymgyrch Colofn o Niwl (2012), ac Ymgyrch y Clogwyni Cedyrn (2014). Goresgynnwyd Llain Gaza gan yr IDF unwaith eto yn sgil Ymgyrch Llif Al-Aqsa, a dygwyd gyrchoedd ar adeiladau i dargedu celloedd o frwydrwyr Hamas. Yn sgil cyhoeddi'r gorchymyn gwacâd yn y gogledd, bu disgwyl i Israel gynyddu ei phresenoldeb milwrol yn Llain Gaza, ac yn ystod oriau mân y bore ar 28 Hydref, wedi noson o fomio trwm, lansiwyd goresgyniad ar raddfa eangach gan filwyr yr IDF i mewn i'r diriogaeth. Ailgyhoeddwyd y gorchymyn i drigolion ymadael y gogledd, a datganodd Netanyahu bod "ail gam y rhyfel wedi dechrau".[21]
Y cadoediad cyntaf (24–30 Tachwedd 2023)
[golygu | golygu cod]Ar 22 Tachwedd, cytunodd y cabinet rhyfel, drwy gyfrwng cyflafareddwyr o Gatar a'r Aifft, i oedi'r brwydro er mwyn cyfnewid carcharorion ag Hamas. Yn ôl amodau'r cytundeb dechreuol, byddai'r rhyfelwyr yn rhoi'r gorau i ymladd am bedwar diwrnod, byddai 50 o wystlon Israelaidd yn Gaza a 150 o garcharoriron Palesteinaidd yn Israel i'w rhyddhau, a byddai Israel yn caniatau rhagor o gymorth dyngarol i mynd i mewn i'r Llain. Bu'r cadoediad yn agored i'w estyn, yn ôl Israel, os oedd rhagor o wystlon yn cael eu rhyddhau gan Hamas, er na chytunodd Israel yn sicr i ryddhau rhagor o garcharorion os digwydd hynny.[22] Cychwynnodd y cadoediad ar 24 Tachwedd, ac ar 27 Tachwedd cyhoeddodd Gweinyddiaeth Dramor Catar estyniad deuddydd i ryddhau 20 o Israeliaid a 60 o Balesteiniaid. Ar 30 Tachwedd, cytunwyd i beidio â brwydro am ddiwrnod arall, a pharhaodd y cyflafafareddwyr o Gatar a'r Aifft i geisio estyn y cadoediad ymhellach.[23][24] Yn ystod yr wythnos o 24 i 30 Tachwedd 2023, rhyddhawyd 110 o wystlon gan Hamas a 240 o garcharorion gan Israel. Fodd bynnag, daeth y cadoediad i ben ar 1 Rhagfyr, wrth i Hamas rhoi'r bai ar Israel am wrthod cytuno i ryddhau rhagor o garcharorion.[25] Saethodd Hamas rocedi ar ddinas Sderot, ac ymatebodd Israel gyda chyrchoedd awyr ar draws Llain Gaza.[26] Yn ôl Gweinyddiaeth Iechyd Gaza, bu farw o leiaf 21 o bobl.[27] Chwalodd y trafodaethau'n llwyr ar 2 Rhagfyr, a gorchmynnodd Israel i'w dirprwyaeth adael Catar.[28] Cyhoeddodd Hamas na fyddai rhagor o wystlon yn cael eu rhyddhau nes i'r rhyfel ddod i ben. Rhoddodd llywodraethau Israel a'r Unol Daleithiau y bai ar Hamas am dorri'r cadoediad, ond yn yr wythnosau i ddod trodd y farn ryngwladol yn fwyfwy'n erbyn safbwynt Israel a'r Unol Daleithiau a chynyddodd y galw am gadoediad arall.[29][30][31]
Ymateb rhyngwladol
[golygu | golygu cod]Ar 8 Tachwedd 2023 galwodd Senedd Cymru am gadoediad; mae hyn yn debyg i ddatganiad Senedd yr Alban, ond yn gwbwl groes i farn San Steffan a Phlaid Lafur y DU.[32]
Camwybodaeth a thwyllwybodaeth
[golygu | golygu cod]Câi twyllwybodaeth am y rhyfel eu lledaenu ar bwrpas gan y ddwy ochr, yn enwedig ar-lein, ac âi ffug-newyddion a lluniau a fideos o darddiad annibynnol neu ansicr yn firaol. Un o'r honiadau amlycaf ar y cyfryngau cymdeithasol oedd y cyhuddiad o derfysgwyr Hamas yn torri pennau rhyw 40 o fabanod yng nghyflafan Kfar Aza. Cyhoeddwyd y stori gan gyfrifon y sianel newyddion i24NEWS a llywodraeth Israel ar wefan X, a chafodd ei hailadrodd gan y mwyafrif o bapurau newydd cenedlaethol y Deyrnas Unedig, Sky News yn Awstralia, a Fox News yn yr Unol Daleithiau. Tarddiad y cyhuddiad oedd milwr o'r IDF, a feddai mewn cyfweliad ag i24NEWS i 40 o blant gael eu lladd gan Hamas yn Kfar Aza, a phennau rhai ohonynt wedi eu torri.[33] Honnai Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau, ar gam ei fod wedi gweld tystiolaeth ffotograffig o'r hwnnw.[34] Mae'n sicr i o leiaf 52 o bobl gael eu lladd yn y gyflafan, gan gynnwys plant, ond mae ffynonellau newyddion eraill wedi bwrw amheuaeth ar yr honiad priodol o "dorri pennau 40 o fabanod".[35]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Steven Erlanger, "Archifwyd 7 Hydref 2023 yn y Peiriant Wayback", New York Times, 7 Hydref 2023. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 8 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) "Archifwyd 7 Hydref 2023 yn y Peiriant Wayback", Jerusalem Post, 7 Hydref 2023. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) Tia Goldenberg a Wafaa Shurafa, "Archifwyd 2023-10-08 yn y Peiriant Wayback", Associated Press (9 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) "Archifwyd 2023-10-07 yn y Peiriant Wayback", The Times of Israel (7 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 8 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) "Archifwyd 2023-10-08 yn y Peiriant Wayback", South China Morning Post (8 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) Emanuel Fabian, "Archifwyd 2024-02-25 yn y Peiriant Wayback", The Times of Israel (11 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) Bethan McKernan, "Archifwyd 2023-10-07 yn y Peiriant Wayback", The Guardian (7 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) "Gaza faces ‘humanitarian catastrophe’ as power plant running out of fuel", Al Jazeera (11 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) "Archifwyd 2023-10-07 yn y Peiriant Wayback", Al Jazeera (8 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) Ruth Michaelson, "Archifwyd 2023-10-07 yn y Peiriant Wayback", The Guardian (7 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 8 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) Vivian Nereim, "Archifwyd 2023-10-09 yn y Peiriant Wayback", The New York Times (9 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 9 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) Talya Zax, "Archifwyd 2023-10-08 yn y Peiriant Wayback", The Forward (7 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 8 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) "Archifwyd 2023-10-09 yn y Peiriant Wayback", Human Rights Watch (9 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 10 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) "Archifwyd 2023-10-27 yn y Peiriant Wayback", BBC (9 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) "Archifwyd 2023-10-09 yn y Peiriant Wayback", Ahram Online (8 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 11 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) "Archifwyd 2024-04-17 yn y Peiriant Wayback", The New York Times (9 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 10 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) John Reed, Mehul Srivastava a Mai Khaled, "Archifwyd 2023-11-13 yn y Peiriant Wayback", Financial Times (13 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 14 Hydref2023.
- ↑ (Saesneg) Heba Saleh, Mai Khaled ac Henry Foy, "‘The worst day': Israeli warning prompts Palestinian exodus from north Gaza", Financial Times (13 Hydref 2023). Archifwyd o'r drwy gyfrwng archive.today ar 13 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) "Strike on civilian convoy fleeing Gaza: What we know from verified video", BBC (15 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) "Rafah border crossing: could Egypt open it to fleeing Palestinians?", The Guardian (15 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) "Archifwyd 2023-10-28 yn y Peiriant Wayback", Sky News (28 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 28 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) Areesha Lodhi, "Archifwyd 2023-11-22 yn y Peiriant Wayback", Al Jazeera (22 Tachwedd 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Ionawr 2025.
- ↑ (Saesneg) Wafaa Shurafa, Jack Jeffery a Melanie Lidman, "Archifwyd 2023-11-30 yn y Peiriant Wayback", Associated Press (30 Tachwedd 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Ionawr 2025.
- ↑ (Saesneg) Nidal Al-Mughrabi, Mohammed Salem ac Humeyra Pamuk, "Archifwyd 2023-11-30 yn y Peiriant Wayback", Reuters (1 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Ionawr 2025.
- ↑ (Saesneg) "Archifwyd 2023-11-30 yn y Peiriant Wayback", The Jerusalem Post (30 Tachwedd 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Ionawr 2025.
- ↑ (Saesneg) Dan Sabbagh a Jason Burke, "Archifwyd 2023-12-01 yn y Peiriant Wayback", The Guardian (1 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Rhagfyr 2023.
- ↑ (Saesneg) "Israeli air strikes pound Gaza as truce with Hamas ends", Al Jazeera (1 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Ionawr 2025.
- ↑ (Saesneg) "Israel pulls Mossad negotiators from Qatar after ‘impasse' over captives", Al Jazeera (2 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Rhagfyr 2023.
- ↑ (Saesneg) Patsy Widakuswara, "Archifwyd 2025-02-02 yn y Peiriant Wayback", Voice of America (1 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Ionawr 2025.
- ↑ (Saesneg) Ed Pilkington, "US increasingly alone in Israel support as 153 countries vote for ceasefire at UN", The Guardian (12 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 13 Rhagfyr 2023.
- ↑ (Saesneg) "Archifwyd 2025-01-24 yn y Peiriant Wayback", NBC (13 Rhagfyr 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Ionawr 2025.
- ↑ [https://nation.cymru/news/senedd-backs-motion-calling-for-immediate-ceasefire-in-gaza-and-israel/ nation.cymru; adalwyd 9 Tachwedd 2023.
- ↑ (Saesneg) Nicole Zedek, "Archifwyd 2023-10-10 yn y Peiriant Wayback", i24NEWS (10 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) Kat Tenbarge a Melissa Chan, "Archifwyd 2023-10-12 yn y Peiriant Wayback" (12 Hydref 2023). Archifwyd o'r "dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Hydref 2023.
- ↑ (Saesneg) Matthew Chance, Richard Allen Greene a Joshua Berlinger, "Archifwyd 2023-11-07 yn y Peiriant Wayback", CNN (12 Hydref 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Hydref 2023.