Rostrenenn
Gwedd
| Math | cymuned, anheddiad dynol |
|---|---|
| Poblogaeth | 3,282 |
| Gefeilldref/i | Ceann Toirc, Le Morne-Rouge |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 32.17 km² |
| Uwch y môr | 216 metr, 152 metr, 262 metr, 199 metr |
| Yn ffinio gyda | Groñvel, Plougernevel, Melioneg, Kergrist-Moeloù |
| Cyfesurynnau | 48.2364°N 3.3169°W, 48.2369°N 3.3144°W |
| Cod post | 22110 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Rostrenenn |
![]() | |

Cymuned yng ngorllewin Llydaw yw Rostrenenn (Ffrangeg: Rostrenen), Saif yn département Aodoù-an-Arvor (Côtes-d’Armor). Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 3,397.[1]
Mae'r enw yn cyfateb i "Rhos y ddraenen" yn Gymraeg. Yn ôl y chwedl, cafwyd hyd i gerflun pren o'r Forwyn Fair mewn llwyn o ddrain yma. Ceir pererindod yma ar 15 Awst, sydd yn un o'r rhai mwyaf poblogaidd yn Llydaw.
Mabwysiadodd cyngor y dref y cynllun iaith Ya d'ar brezhoneg yn 2004. Yn 2007, roedd 34.1% o'r disgyblion cynradd yn derbyn addysg ddwyieithog. Cynhelir gŵyl Festival Fisel yma'n flynyddol.
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Françoise Morvan, awdur
