Asilah
| Math | cymuned drefol Moroco, dinas |
|---|---|
| Poblogaeth | 36,039 |
| Sefydlwyd |
|
| Pennaeth llywodraeth | Mohamed Benaissa |
| Gefeilldref/i | Sintra |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Uwch y môr | 2 metr |
| Cyfesurynnau | 35.461788°N 6.037661°W |
| Pennaeth y Llywodraeth | Mohamed Benaissa |
![]() | |
| Statws treftadaeth | Treftadaeth ddiwylliannol Moroco |
| Manylion | |

Dinas ym Moroco yw Asilah (hefyd weithiau Arzila) (Arabeg: أصيلة، أرزيلة), a leolir ar ben gogledd-orllewinol Moroco ar lan y Cefnfor Iwerydd, tua 50 km i'r de o Tanger, yn rhanbarth Tanger-Tétouan. Mae'n dref gaerog a amgylchynir gan fur gyda'r pyrth canoloesol gwreiddiol yn dal yn eu lle.
Mae ei hanes yn cychwyn tua 1000 CC, pan gafodd ei defnyddio gan y Ffeniciaid fel porth masnach arfordirol. Roedd yn cael ei adnabod fel Zilis. Cefnogodd y Ziliaid ddinas Carthago yn y Rhyfeloedd Pwnig, ac o ganlyniad fe'u gorfodwyd gan y Rhufeiniaid buddugoliaethus i ymadael a sefydlwyd gwladfa o Iberiaid yn eu lle. Yn y 10g ceisiodd Normaniaid Sisili ei chipio. Bu ymrafael am ei meddiant rhwng rheolwyr Moroco a Portiwgal a Sbaen o 1471, pan gafodd ei chipio gan y Portiwgalwyr, a 1691 pan adfeddianwyd y ddinas o feddiant Sbaen gan y Swltan Moulay Ismail. Bu'n ganolfan i fôr-ladron am gyfnod ar ôl hynny. Erbyn heddiw mae'n gyrchfan gwyliau ffasiynol i Forocwyr ac eraill.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Arabeg) Gwefan swyddogol Asilah (mewn Arabeg ond gyda lluniau)
- Tourism Asilah Archifwyd 2012-06-22 yn y Peiriant Wayback
