Tanger-Tétouan
Gwedd
| Math | former region of Morocco |
|---|---|
| Prifddinas | Tanger |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 11,570 km² |
| Cyfesurynnau | 35.77°N 5.8°W |
![]() | |

Un o 16 rhanbarth Moroco yw Tanger-Tétouan (Arabeg: طنجة تطوان). Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin Moroco rhwng Cefnfor Iwerydd i'r gorllewin a Môr y Canoldir i'r dwyrain, a gysylltir gan Gulfor Gibraltar. Mae ganddo arwynebedd o 11,570 km² a phoblogaeth o 2,470,372 (cyfrifiad 2004). Tanger (Tangier) yw'r brifddinas.
Mae'r rhanbarth yn wynebu Sbaen dros Gulfor Gibraltar ac yn ffinio gyda thiriogaeth Sbaenaidd Ceuta.
Mae Tanger-Tétouan yn cynnwys y taleithiau a préfectures a ganlyn:
- Préfecture Fahs Anjra
- Préfecture Tanger - Asilah
- Préfecture Tétouan
- Talaith Chefchaouen
- Talaith Larache
