Giorgia Meloni
| Giorgia Meloni | |
|---|---|
Y Prif Weinidog Giorgia Meloni (Hydref 2022) | |
| Llais | Giorgia Meloni - Giorno della Libertà.ogg |
| Ganwyd | 15 Ionawr 1977 Rhufain |
| Dinasyddiaeth | Yr Eidal |
| Galwedigaeth | gwleidydd, newyddiadurwr |
| Swydd | Prif Weinidog yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Italian Minister for Youth Policies, Italian Minister for Youth Policies, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, member of the Provincial Council of Rome, Aelod o Siambr Dirprwyon Gweriniaeth yr Eidal, Italian minister of Tourism |
| Taldra | 163 centimetr |
| Plaid Wleidyddol | Italian Social Movement - National Right, Alleanza Nazionale, Pobl dros Ryddid, Brothers of Italy |
| Tad | Francesco Meloni |
| Mam | Anna Paratore |
| Partner | Andrea Giambruno |
| Perthnasau | Francesco Lollobrigida, Nino Meloni, Zoe Incrocci |
| Gwobr/au | Uwch Groes Rhosyn Gwyn y Ffindir, Order of Liberty |
| Gwefan | https://www.giorgiameloni.it/ |
| llofnod | |
Gwleidydd o'r Eidal yw Giorgia Meloni (
[ˈdʒordʒa meˈloːni]; ganed 15 Ionawr 1977) a wasanaetha yn Brif Weinidog yr Eidal ers 22 Hydref 2022, y fenyw gyntaf yn bennaeth ar lywodraeth yr Eidal yn hanes y wlad.[1] Hi yw arweinydd ac un o sefydlwyr y blaid Fratelli d'Italia (Brodyr yr Eidal; FdI), a chanddi ideoleg geidwadol-genedlaetholgar a phoblyddol.
Ganed hi yn Rhufain, prifddinas yr Eidal, i deulu dosbarth-gweithiol. Yn ei harddegau, ym 1992, ymaelododd â Ffrynt Ieuenctid y Movimento Sociale Italiano (Mudiad Cymdeithasol Eidalaidd; MSI), y brif blaid neo-ffasgaidd yn yr hanner can mlynedd ers sefydlu Gweriniaeth yr Eidal. Wedi i'r MSI drawsnewid yn blaid ôl-ffasgaidd, ar ffurf yr Alleanza Nazionale (Cynghrair Genedlaethol; AN) ym 1995, daeth Meloni yn arweinydd cenedlaethol yr adain fyfyrwyr. Etholwyd hi yn gynghorydd yn Nhalaith Rhufain ym 1998, ac wedi diwedd ei thymor yn 2002 fe'i penodwyd yn llywydd adain ieuenctid yr AN.[2]
Etholwyd Meloni i Siambr y Dirprwyon am y tro cyntaf yn 2006. Fe'i penodwyd yn Weinidog Ieuenctid ym mhedwerydd cabinet y Prif Weinidog Silvio Berlusconi yn 2008, a daliai'r swydd honno nes 2011. Daeth yr AN i ben yn 2009, pan gyfunodd â Forza Italia (Yr Eidal Ymlaen, FI), plaid Berlusconi, i ffurfio Il Popolo della Libertà (Y Bobl Ryddid; PdL).
Sefydlwyd Fratelli d'Italia gan Giorgia Meloni, Ignazio La Russa, a Guido Crosetto yn 2012, gan ymrannu oddi ar PdL. Penodwyd Meloni yn llywydd y blaid yn 2014. Ymgyrchodd yn etholiad Senedd Ewrop yn 2014 ac etholiad dinesig Rhufain yn 2016, ond heb ennill. Yn sgil etholiad cyffredinol 2018, arweiniodd Meloni FdI drwy gydol y 18fed ddeddfwrfa, o Fawrth 2018 i Hydref 2022, yn wrthblaid i lywodraeth glymblaid Giuseppe Conte a llywodraeth undod cenedlaethol Mario Draghi.
Wedi cwymp llywodraeth Draghi yng Ngorffennaf 2022, cynhaliwyd etholiad cyffredinol ym Medi, ac enillodd y glymblaid ganol-dde—gan gynnwys FdI—fwyafrif llwyr o'r seddi yn y senedd. FdI oedd y blaid unigol a enillodd y gyfran fwyaf o'r bleidlais boblogaidd (26 y cant) ac felly, yn ôl cytundeb a wnaed cyn yr etholiad, enwebwyd Meloni i fod yn brif weinidog, gyda chefnogaeth yr holl glymblaid.[3]
2026: Beirniadaeth o Donald Trump
[golygu | golygu cod]Pan wrthododd y Pab Leo gefnogi ymosodiadau'r Arlywydd Donald Trump o'r Unol Daleithiau ar Iran, beirniadodd Trump y Pab.[4] Cyhoeddodd Trump lun ohono'i hun wedi'i wisgo fel Iesu hefyd, a achosodd ddicter ymhlith Cristnogion.[5] Dywedodd Giorgia Meloni fod ymosodiad Trump ar y Pab yn gwbl annerbyniol.[6]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Crispian Balmer ac Angelo Amante, "Archifwyd 2023-10-22 yn y Peiriant Wayback", Reuters (22 Hydref 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 22 Hydref 2022.
- ↑ (Saesneg) Giorgia Meloni. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Ionawr 2023.
- ↑ (Saesneg) Paul Kirby, "Giorgia Meloni: Italy's far-right wins election and vows to govern for all", BBC (26 Medi 2022). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 26 Ionawr 2023.
- ↑ Angela Giuffreda (14 Ebrill 2026). "I do not fear Trump, says Pope Leo after US president calls him 'weak'". Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Ebrill 2026.
- ↑ Joseph Gedeon (14 Ebrill 2026). "Trump deletes post with AI image of himself as Jesus-like figure after outcry". Guardian. Cyrchwyd 14 Ebrill 2026.
- ↑ Robert Greenall; Laura Gozzi (13 Ebrill 2026). "Italian PM condemns ally Trump over 'unacceptable' Pope criticism" (yn Saesneg). Cyrchwyd 14 Ebrill 2026.
| |||||