Henry (uned)
| Enghraifft o: | uned ddeilliadol SI, System Ryngwladol o Unedau gydag enw arbennig, uned ddeilliadol UCUM, unit of inductance |
|---|---|
| Y gwrthwyneb | henry dwyochrog |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0l4kj |
Un o unedau deilliadol y System Ryngwladol o Unedau yw'r henry (symbol: H), sy'n fesur anwythiant trydanol.
Pan fydd cerrynt trydan yn newid ar 1 amper yr eiliad yn achosi grym electromotif o 1 folt ar draws coil mewn cylched drydan, yna mae'r anwythiant yn y coil yn hafal i 1 henry.
Mae'r henry yn uned ddeilliedol sy'n seiliedig ar bedair o saith uned sylfaenol y System Ryngwladol o Unedau: cilogram (kg), metr (m), eiliad (s), ac amper (A). Wedi'i ddangos mewn cyfuniadau o unedau SI, yr henry yw:
lle mae'r unedau deilliedig ychwanegol canlynol yn digwydd: coulomb (C), ffarad (F), joule (J), weber (Wb), tesla (T), folt (V), hertz (Hz), ac ohm (Ω).
Yr enw
[golygu | golygu cod]Mae'r uned wedi'i henwi er anrhydedd y ffisegydd o'r Unol Daleithiau Joseph Henry (1797–1878) a ddarganfu anwythiant trydanol ar yr un pryd â Michael Faraday (1791–1867) yn Lloegr ac yn annibynnol arno.