Neidio i'r cynnwys

Marchwiail

Oddi ar Wicipedia
Marchwiail
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,281, 1,379 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.0231°N 2.96°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000899 Edit this on Wikidata
Cod OSSJ356476 Edit this on Wikidata
Etholaeth y SeneddFflint Wrecsam
Etholaeth y DUAndrew Ranger (Llafur)
Map

Pentref a chymuned ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, Cymru, yw Marchwiail (Saesneg: Marchwiel). Saif y pentref tua 2.5 filltir i'r de-ddwyrain o ddinas Wrecsam ei hun.

Gorwedd y pentref ym mhlwyf Marchwiail ym Maelor Gymraeg, ym Maelor, y rhan o ogledd-ddwyrain Cymru sy'n ymwthio i mewn i Loegr, ar yr A525 hanner ffordd rhwng Wrecsam a Bangor Is Coed i'r de-ddwyrain.

Ystyr marchwiail yw "brigau mawr, gwiail praff" neu "goed ifainc" (unigol: marchwialen).[1] Efallai bod yr ardal yn nodwedig o goediog ar un adeg.

Cysegrir yr eglwys i'r Santes Marchell ac i Sant Deiniol. Yn ôl yr hynafiaethydd Edward Lhuyd, i Ddeiniol y cyflwynwyd yr eglwys ar y dechrau. Cafodd adeilad yr eglwys ei ailgodi o'r newydd bron yn y 18g. Mae'n adnabyddus am ffenestr wydr-liw a adnabyddir fel "ffenestr Yorke".[2]

Roedd gan y pentref orsaf ar yr hen reilffordd Wrecsam ac Ellesmere. Caewyd yr orsaf ym 1962, pan gaewyd y reilffordd i deithwyr.[3]

Cyfrifiad 2011

[golygu | golygu cod]

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6][7]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Marchwiail (pob oed) (1,379)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Marchwiail) (136)
  
10.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Marchwiail) (944)
  
68.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Marchwiail) (183)
  
31.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. ↑  marchwialen. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 21 Ionawr 2021.
  2. ↑ Frank Price Jones, Crwydro Dwyrain Dinbych (Cyfres Crwydro Cymru, 1961), t. 118.
  3. ↑ "Wrexham and Ellesmere Railway". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-05-29. Cyrchwyd 2022-05-19.
  4. ↑ "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-02. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. ↑ Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. ↑ Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  7. ↑ Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]