Neidio i'r cynnwys

OPEC

Oddi ar Wicipedia
OPEC
Enghraifft o:sefydliad rhyngwladol, carfan bwyso, sefydliad rhynglywodraethol, Cartél Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu14 Medi 1960 Edit this on Wikidata
Yn cynnwysAlgeria, Angola, Gini Gyhydeddol, Gabon, Iran, Irac, Coweit, Libia, Nigeria, Gweriniaeth y Congo, Sawdi Arabia, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Feneswela Edit this on Wikidata
Pennaeth y sefydliadPresident of OPEC Edit this on Wikidata
Cynnyrchpetroliwm Edit this on Wikidata
PencadlysInnere Stadt Edit this on Wikidata
Enw brodorolOPEC Edit this on Wikidata
Gwladwriaethinternationality Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.opec.org Edit this on Wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/0165_d edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner OPEC
Pencadlys OPEC yn Fienna

Corff rhyngwladol o gynhyrchwyr olew yw OPEC (o'r Saesneg: Organization of the Petroleum Exporting Countries neu'n Gymraeg, Cyfundrefn Gwledydd Allforio Petroliwm). Mae'r mwyafrif o wledydd sydd yn cynhyrchu olew ar raddfa sylweddol yn aelodau o OPEC, sydd yn ceisio dylanwadu ar bris olew crai rhyngwladol trwy reoli faint o olew caiff ei gynhyrchu drwy'r byd.

Sefydlwyd OPEC ar 14 Medi 1960 yn Baghdad (Irac), gyda'r syniad yn dod o Feneswela. Yr aelodau gwreiddiol, heblaw Feneswela ac Irac, oedd Sawdi Arabia, Iran a Coweit. Yn ddiweddarach, daeth gwledydd eraill yn aelodau, er i rai adael wedyn: Catar (1961), Indonesia (1962-2008), Libia (1962), Emiradau Arabaidd Unedig (1967), Algeria (1969), Nigeria (1971), Ecwador (1973-1992 a dod yn aelod eto Tachwedd 2007), Gabon (1975-1994) ac Angola (2007). Mae'r pencadlys yn Fienna ers 1965.

Aelodau cyfredol y Corff (yn 2019) yw: Aljeria, Angola, Coweit, Ecwador, Yr Emiradau Arabaidd Unedig, Gini'r Cyhydedd, Gabon, Iran, Irac, Gweriniaeth y Congo, Libia, Nigeria, Arabia Sawdi (arweinydd de fact), a Feneswela. Mae Indonesia a Catar yn gyn-aelodau.[1] Mae'r 14 gwladwriaeth (ym Medi 2018) yn gyfrifol am 44% o gynnyrch olew y byd ac 81.5% o gronfeydd "profiedig" o olew'r byd.

Nid yw pob gwlad sy'n cynhyrchu olew ar raddfa sylweddol yn aelod o OPEC; nid yw Canada, Mecsico, Norwy, yr Unol Daleithiau, Rwsia ac Oman yn aelodau.

Aelodau OPEC mewn glas tywyll. Mae Gabon ac Indonesia (glas golau) wedi gadael OPEC.

Cwotâu Olew Cyfredol

[golygu | golygu cod]
Cwotâu OPEC ar gyfer echdynnu bareli y dydd, fesul mil [2]
ValstybėCwota (7/1/05)Adennill (1/07)Capasiti Macsimwm
Aljeria8941,3601,430
AngolaN/A1,4901,490
Indonesia1,451860860
Iran4,1103,7003,750
Irac1,481
Coweit2,2472,5002,600
Libia1,5001,6501,700
Nigeria2,3062,2502,250
Catar726810850
Arabia Sawdi10,0998,80010,500
EAU2,4442,5002,600
Feneswela3,2232,3402,450
Cyfanswm28,00031,98132,230

(Noder nad yw Catar nag Indonesia bellach yn aelod o OPEC).

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]