Osteoarthritis
| Enghraifft o: | math o glefyd, symptom neu arwydd |
|---|---|
| Math | gwynegon, degenerative disorder of musculoskeletal system |
| Symptomau | Gwynegon |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/02jf6f |
| Thesawrws y BNCF | 21510 |
| OMIM | 165720 |
| MeSH | D010003 |
| UMLS CUI | C0157946, c0029408 |
| Quora | Osteoarthritis |
Osteoarthritis yw'r math mwyaf cyffredin o arthritis yn y DU; mae'n gyflwr sy'n effeithio ar y cymalau. Mae niwed i'r cartilag (pad o feinwe gyswllt sy'n leinio'r cymalau) rhwng yr esgyrn yn peri i dyfiannau esgyrnog ddatblygu o gwmpas ymyl y cymalau. Mae hyn yn achosi llid y cymalau (synofitis). Y cymalau sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio yw'r pengliniau, cluniau a chymalau bach y dwylo, ond gall unrhyw gymalau gael eu heffeithio. Fel rheol mae'n datblygu mewn unigolion dros 50 oed ac mae'n fwy cyffredin mewn menywod. Gall effeithio ar unigolion iau o ganlyniad i anaf neu gyflwr cymalau. Mae'r risg o gael yr anhwylder yn cynyddu ble mae'r dull o fyw (e.e. gwaith neu weithgaredd chwaraeon) wedi rhoi straen ar y cymalau dros gyfnodau hir. Nid oes iachâd i osteoarthritis ond gellir lleddfu'r symptomau drwy ymarfer ysgafn, esgidiau addas, ffisiotherapi neu lawdriniaeth.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Iechyd a Gofal Cymdeithasol". CBAC. 2011. Cyrchwyd 11 Rhagfyr 2017.